Pan ddaeth Benaia at babell yr ARGLWYDD, dyma fe'n galw ar Joab, “Mae'r brenin yn gorchymyn i ti ddod allan.” Ond dyma Joab yn ateb, “Na! Dw i am farw yma!” Felly dyma Benaia'n mynd yn ôl at y brenin a dweud wrtho beth oedd Joab wedi ei ddweud.