beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 2:22-32 beibl.net 2015 (BNET)

22. A dyma'r Brenin Solomon yn ateb ei fam, “Pam mai dim ond yn gofyn am Abisag o Shwnem wyt ti i Adoneia? Waeth i ti ofyn am y deyrnas iddo hefyd, achos mae e'n hŷn na fi, ac mae Abiathar yr offeiriad a Joab, mab Serwia, yn ei gefnogi e.”

23. A dyma'r Brenin Solomon yn tyngu llw i'r ARGLWYDD, “Boed i Dduw ddial arna i os fydd Adoneia yn talu gyda'i fywyd am ofyn y fath beth!

24. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw (yr un sydd wedi rhoi gorsedd fy nhad Dafydd i mi, a sicrhau llinach i mi fel gwnaeth e addo), bydd Adoneia yn marw heddiw!”

25. Yna dyma'r Brenin Solomon yn anfon Benaia fab Jehoiada ar ei ôl. A dyma hwnnw'n ymosod ar Adoneia a'i ladd.

26. Wedyn dyma'r brenin yn dweud wrth Abiathar yr offeiriad, “Dos adre i Anathoth, i dy fro dy hun. Ti'n haeddu marw ond wna i ddim dy ladd di, dim ond am dy fod wedi cario Arch yr ARGLWYDD, ein Meistr, o flaen Dafydd fy nhad, ac wedi dioddef gydag e pan oedd pethau'n anodd.”

27. Felly drwy ddiarddel Abiathar o fod yn offeiriad i'r ARGLWYDD, dyma Solomon yn cyflawni beth ddwedodd yr ARGLWYDD yn Seilo am ddisgynyddion Eli.

28. Pan glywodd Joab beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n ffoi i babell yr ARGLWYDD a gafael yng nghyrn yr allor. (Roedd Joab wedi cefnogi Adoneia, er doedd e ddim wedi cefnogi Absalom.)

29. Pan glywodd y Brenin Solomon fod Joab wedi ffoi at yr allor ym mhabell yr ARGLWYDD, dyma fe'n dweud wrth Benaia fab Jehoiada i fynd yno a taro Joab.

30. Pan ddaeth Benaia at babell yr ARGLWYDD, dyma fe'n galw ar Joab, “Mae'r brenin yn gorchymyn i ti ddod allan.” Ond dyma Joab yn ateb, “Na! Dw i am farw yma!” Felly dyma Benaia'n mynd yn ôl at y brenin a dweud wrtho beth oedd Joab wedi ei ddweud.

31. A dyma'r brenin yn dweud, “Gwna fel dwedodd e! Lladd e yno, a'i gladdu. Byddi'n clirio fi a fy nheulu o'r bai am yr holl waed wnaeth Joab ei dywallt.

32. Mae'r ARGLWYDD yn talu'n ôl iddo am ladd dau ddyn llawer gwell na fe'i hun – Abner fab Ner, capten byddin Israel, ac Amasa fab Jether, capten byddin Jwda – a gwneud hynny heb yn wybod i'm tad Dafydd.