beibl.net 2015

1 Brenhinoedd 11:29-43 beibl.net 2015 (BNET)

29. Un diwrnod roedd Jeroboam wedi mynd allan o Jerwsalem. A dyma'r proffwyd Achïa o Seilo yn ei gyfarfod ar y ffordd, yn gwisgo mantell newydd sbon. Roedd y ddau ar eu pennau hunan yng nghefn gwlad.

30. Dyma Achïa yn cymryd y fantell, a'i rhwygo yn un deg dau o ddarnau.

31. A dyma fe'n dweud wrth Jeroboam, “Cymer di ddeg darn. Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i am gymryd teyrnas Israel oddi ar Solomon, a rhoi deg llwyth i ti.

32. Bydd un llwyth yn cael ei gadael iddo fe, o barch at Dafydd fy ngwas, ac at Jerwsalem, y ddinas dw i wedi ei dewis o'r llwythau i gyd i fod yn ddinas i mi.

33. Dw i'n gwneud hyn am eu bod nhw wedi troi cefn arna i. Maen nhw wedi addoli Ashtart (duwies Sidon), Chemosh (duw Moab), a Milcom (duw pobl Ammon). Dŷn nhw ddim wedi byw fel dw i'n dweud, gwneud beth sy'n iawn gen i, a bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau rois i iddyn nhw, fel gwnaeth Dafydd, tad Solomon.

34. Ond dw i ddim am gymryd y deyrnas gyfan oddi arno. Dw i am adael iddo fe fod yn frenin tra bydd e byw, o barch at Dafydd, y gwas wnes i ei ddewis a'r un oedd yn cadw fy rheolau a'm deddfau i.

35. Bydda i'n cymryd y deyrnas oddi ar ei fab, ac yn rhoi deg llwyth i ti.

36. Dw i am adael un llwyth i'w fab fel y bydd llinach Dafydd fel lamp yn dal i losgi o'm blaen i yn Jerwsalem, y ddinas dw i wedi dewis byw ynddi.

37. Ond dw i'n dy ddewis di i fod yn frenin ar Israel. Byddi'n teyrnasu ar y cyfan rwyt ti'n ddymuno.

38. Rhaid i ti fod yn ufudd i mi, byw fel dw i'n dweud, a gwneud beth sy'n iawn gen i – bod yn ufudd i'm rheolau a'm canllawiau fel roedd fy ngwas Dafydd yn gwneud. Os gwnei di hynny, bydda i gyda ti, a bydda i'n rhoi llinach i ti yn union fel gwnes i i Dafydd. Bydda i'n rhoi Israel i ti.

39. Dw i'n mynd i gosbi disgynyddion Dafydd o achos beth sydd wedi digwydd; ond ddim am byth.”

40. Dyma Solomon yn ceisio lladd Jeroboam. Ond dyma Jeroboam yn dianc i'r Aifft at y brenin Shishac. Arhosodd yno nes i Solomon farw.

41. Mae gweddill hanes Solomon, y cwbl wnaeth e ei gyflawni, a'i ddoethineb, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Solomon.

42. Bu Solomon yn teyrnasu yn Jerwsalem ar Israel gyfan am bedwar deg o flynyddoedd.

43. Pan fuodd Solomon farw, cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd ei dad. A dyma Rehoboam, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.