A dyma fe'n dweud wrth Jeroboam, “Cymer di ddeg darn. Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i am gymryd teyrnas Israel oddi ar Solomon, a rhoi deg llwyth i ti.