28. Roedd hi'n amlwg fod Jeroboam yn ddyn abl. Pan welodd Solomon fod y dyn ifanc yma yn weithiwr da, dyma fe'n ei wneud yn fforman ar y gweithwyr o lwyth Joseff.
29. Un diwrnod roedd Jeroboam wedi mynd allan o Jerwsalem. A dyma'r proffwyd Achïa o Seilo yn ei gyfarfod ar y ffordd, yn gwisgo mantell newydd sbon. Roedd y ddau ar eu pennau hunan yng nghefn gwlad.
30. Dyma Achïa yn cymryd y fantell, a'i rhwygo yn un deg dau o ddarnau.
31. A dyma fe'n dweud wrth Jeroboam, “Cymer di ddeg darn. Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i am gymryd teyrnas Israel oddi ar Solomon, a rhoi deg llwyth i ti.
32. Bydd un llwyth yn cael ei gadael iddo fe, o barch at Dafydd fy ngwas, ac at Jerwsalem, y ddinas dw i wedi ei dewis o'r llwythau i gyd i fod yn ddinas i mi.
33. Dw i'n gwneud hyn am eu bod nhw wedi troi cefn arna i. Maen nhw wedi addoli Ashtart (duwies Sidon), Chemosh (duw Moab), a Milcom (duw pobl Ammon). Dŷn nhw ddim wedi byw fel dw i'n dweud, gwneud beth sy'n iawn gen i, a bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau rois i iddyn nhw, fel gwnaeth Dafydd, tad Solomon.
34. Ond dw i ddim am gymryd y deyrnas gyfan oddi arno. Dw i am adael iddo fe fod yn frenin tra bydd e byw, o barch at Dafydd, y gwas wnes i ei ddewis a'r un oedd yn cadw fy rheolau a'm deddfau i.
35. Bydda i'n cymryd y deyrnas oddi ar ei fab, ac yn rhoi deg llwyth i ti.
36. Dw i am adael un llwyth i'w fab fel y bydd llinach Dafydd fel lamp yn dal i losgi o'm blaen i yn Jerwsalem, y ddinas dw i wedi dewis byw ynddi.