Yna dyma Jeremeia'n dweud wrth y gymuned o Rechabiaid: “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi gwrando ar orchymyn eich cyndad Jonadab. Dych chi wedi gwneud popeth ddwedodd e wrthych chi ei wneud.’