beibl.net 2015

Jeremeia 35:14-19 beibl.net 2015 (BNET)

14. ‘Roedd Jonadab fab Rechab wedi dweud wrth ei ddisgynyddion am beidio yfed gwin, ac maen nhw wedi gwrando arno. Dŷn nhw erioed wedi yfed gwin. Ond dw i wedi bod yn siarad hefo chi dro ar ôl tro, a dych chi byth yn gwrando arna i.

15. Dw i wedi anfon un proffwyd ar ôl y llall i'ch rhybuddio chi, a dweud, “Rhaid i chi stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud. Rhaid i chi newid eich ffyrdd a peidio addoli a gwasanaethu eilun-dduwiau paganaidd, wedyn cewch fyw yn y wlad rois i i chi a'ch hynafiaid.” Ond wnaethoch chi ddim cymryd unrhyw sylw na gwrando ar beth roeddwn i'n ddweud.

16. Mae disgynyddion Jonadab fab Rechab wedi gwneud beth ddwedodd e wrthyn nhw, ond dych chi ddim wedi bod yn ufudd i mi.’

17. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem hefo pob dinistr dw i wedi ei fygwth. Dw i wedi siarad hefo nhw a dŷn nhw ddim wedi gwrando. Dw i wedi galw arnyn nhw a dŷn nhw ddim wedi ateb.’”

18. Yna dyma Jeremeia'n dweud wrth y gymuned o Rechabiaid: “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi gwrando ar orchymyn eich cyndad Jonadab. Dych chi wedi gwneud popeth ddwedodd e wrthych chi ei wneud.’

19. Felly mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud hyn: ‘Bydd un o ddisgynyddion Jonadab fab Rechab yn fy ngwasanaethu i bob amser.’”