Bydd y rhai fydd wedi eu lladd gan yr ARGLWYDD bryd hynny wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y byd. Fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw, a neb yn casglu'r cyrff i'w claddu. Byddan nhw'n gorwedd fel tail wedi ei wasgaru ar wyneb y tir.