beibl.net 2015

Jeremeia 25:31-36 beibl.net 2015 (BNET)

31. Bydd twrw'r frwydr yn atseinio drwy'r byd i gyd.Mae'r ARGLWYDD yn cyhuddo'r cenhedloedd,ac yn mynd i farnu'r ddynoliaeth gyfan.Bydd pobl ddrwg yn cael eu lladd gan y cleddyf!’”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

32. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Mae trychineb yn mynd i ddod ar un wlad ar ôl y llall.Mae gwynt stormus ar fin dod o ben draw'r byd.”

33. Bydd y rhai fydd wedi eu lladd gan yr ARGLWYDD bryd hynny wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y byd. Fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw, a neb yn casglu'r cyrff i'w claddu. Byddan nhw'n gorwedd fel tail wedi ei wasgaru ar wyneb y tir.

34. Dechreuwch udo a chrïo, chi arweinwyr y bobl!Rholiwch yn y lludw, chi sy'n bugeilio praidd fy mhobl.Mae diwrnod y lladdfa wedi dod.Cewch eich gwasgaru.Byddwch fel llestr gwerthfawr wedi syrthio a malu'n ddarnau.

35. Fydd yr arweinwyr ddim yn gallu rhedeg i ffwrdd.Fydd dim dianc i'r rhai sy'n bugeilio'r praidd!

36. Gwrandwch ar sŵn yr arweinwyr yn crïo!Gwrandwch ar fugeiliaid y praidd yn udo!Mae'r ARGLWYDD ar fin dinistrio eu tir nhw.