1. Atgoffa pobl fod rhaid iddyn nhw fod yn atebol i'r llywodraeth a'r awdurdodau. Dylen nhw fod yn ufudd bob amser ac yn barod i wneud daioni;
2. peidio enllibio neb, peidio achosi dadleuon, ond bod yn ystyriol o bobl eraill, a bod yn addfwyn wrth drin pawb.
3. Wedi'r cwbl, roedden ninnau hefyd yn ffôl ac yn anufudd ar un adeg – wedi'n camarwain, ac yn gaeth i bob math o chwantau a phleserau. Roedd ein bywydau ni'n llawn malais a chenfigen a chasineb. Roedd pobl yn ein casáu ni, a ninnau'n eu casáu nhw.
4. Ond dyma garedigrwydd a chariad Duw ein Hachubwr yn dod i'r golwg.
5. Wnaeth e ddim ein hachub ni am ein bod ni'n dda, ond am ei fod e'i hun mor drugarog! Golchodd ni'n lân o'n pechod a rhoi bywyd newydd i ni drwy'r Ysbryd Glân.
6. Tywalltodd yr Ysbryd arnon ni'n hael o achos beth oedd Iesu Grist wedi ei wneud i'n hachub ni.
7. Am ei fod wedi bod mor garedig â gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn, dŷn ni'n gwybod y byddwn ni'n etifeddu bywyd tragwyddol.
8. Mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir!Dyma'r pethau dw i am i ti eu pwysleisio, er mwyn i bawb sy'n credu yn Nuw fod ar y blaen yn gwneud daioni. Mae hynny'n beth da ynddo'i hun, ac mae'n gwneud lles i bawb.
9. Ond paid cael dim i'w wneud â'r dyfalu dwl am achau, a'r holl gecru a dadlau am ryw fân reolau yn y Gyfraith Iddewig. Does dim pwynt – mae'r cwbl yn wastraff amser llwyr!
10. Pwy bynnag sy'n creu rhaniadau, rhybuddia nhw i stopio. Os ydyn nhw ddim yn gwrando ar ôl i ti eu rhybuddio nhw'r ail waith paid cael dim i'w wneud â nhw.
11. Mae pobl felly wedi gwyro oddi wrth y gwirionedd, ac wedi pechu. Nhw sy'n condemnio eu hunain!
12. Dw i'n bwriadu anfon Artemas neu Tychicus atat ti. Cyn gynted ag y bydd y naill neu'r llall wedi cyrraedd tyrd i'm gweld i yn Nicopolis. Dw i wedi penderfynu aros yno dros y gaeaf.
13. Gwna dy orau i helpu Zenas y twrnai ac Apolos ar eu taith. Gwna'n siŵr fod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen.
14. Dylai ein pobl ni ddysgu arwain y ffordd wrth wneud daioni, yn cwrdd ag anghenion y rhai sydd mewn angen go iawn. Fyddan nhw ddim yn gwastraffu eu bywydau felly.