beibl.net 2015

Seffaneia 2:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dewch, casglwch at eich gilydd,y genedl sydd heb gywilydd.

2. Dewch cyn i'r cwbl ddod yn wir,ac i'ch cyfle olaf ddiflannu fel us –Cyn i'r ARGLWYDD wylltio'n lân gyda chi;cyn i'w ddydd barn eich dal chi!

3. Gofynnwch i'r ARGLWYDD eich helpu,chi sy'n cael eu cam-drin yn y wladac sy'n ufudd i'w orchmynion.Gwnewch beth sy'n iawn. Byddwch yn ostyngedig.Falle y cewch eich cuddio mewn lle saffar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu.

4. Bydd tref Gasa'n wag ac Ashcelon yn adfeilion.Bydd pobl Ashdod wedi eu gyrru i ffwrdd cyn canol dydd,a tref Ecron wedi ei bwrw i lawr.

5. Gwae chi sy'n byw ar lan y môr –bobl Philistia ddaeth o Creta.Amdanat ti Canaan, wlad y Philistiaid,mae'r ARGLWYDD wedi dweud yn dy erbyn:“Bydda i'n dy ddinistrio, a fydd neb ar ôl!”

6. Bydd yr arfordir yn dir pori –dolydd i fugeiliaid a chorlannau defaid.

7. Bydd tir y glannau yn eiddoi'r bobl sydd ar ôl o Jwda;Nhw fydd yn pori ynoac yn cysgu'r nos yn nhai Ashcelon.Bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn dod atyn nhw,a rhoi llwyddiant iddyn nhw eto.

8. “Dw i wedi clywed Moab yn gwawdioa phobl Ammon yn enllibio –gwawdio fy mhobl, a bygwth eu ffiniau.