beibl.net 2015

Philemon 1:15-20 beibl.net 2015 (BNET)

15. Mae'n bosib mai'r rheswm pam gawsoch chi eich gwahanu am ychydig oedd er mwyn i ti ei gael yn ôl am byth!

16. Dim fel caethwas o hyn ymlaen, ond yn llawer gwell na hynny – fel ffrind annwyl sy'n credu yn Iesu Grist yr un fath â ti. Mae wedi bod yn werthfawr iawn i mi, ond bydd yn fwy gwerthfawr fyth i ti, fel gwas ac fel brawd sydd fel ti yn credu yn yr Arglwydd.

17. Felly os wyt ti'n cyfri dy fod yn bartner i mi, rho'r un croeso i Onesimws ag a fyddet ti'n ei roi i mi.

18. Os gwnaeth e unrhyw ddrwg i ti neu os oes arno rywbeth i ti, gwnaf i ei dalu'n ôl i ti.

19. Dw i'n ysgrifennu'r peth ac yn ei lofnodi fy hun: Gwna i ei dalu yn ôl, Paul. (Gobeithio bod dim rhaid i mi dy atgoffa di fod arnat ti dy fywyd i mi!)

20. Gwna hyn i mi fel ffordd o wasanaethu'r Arglwydd. Fy ffrind annwyl sy'n dilyn y Meseia, wnei di godi nghalon i?