beibl.net 2015

Philemon 1:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Llythyr gan Paul, sydd yn y carchar dros achos y Meseia Iesu. Mae'r brawd Timotheus yn anfon ei gyfarchion hefyd.At Philemon, ein ffrind annwyl sy'n gweithio gyda ni.

2. A hefyd at ein chwaer Apffia, ac at Archipus sy'n gyd-filwr dros achos Iesu gyda ni. Cofia ni hefyd at bawb arall yn yr eglwys sy'n cyfarfod yn dy gartre di.

3. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.

4. Fy ffrind annwyl, dw i'n diolch i Dduw amdanat ti bob tro dw i'n gweddïo drosot ti.

5. Dw i wedi clywed am dy ffyddlondeb di i'r Arglwydd Iesu ac am y ffordd wyt ti'n gofalu am bawb arall sy'n credu ynddo.

6. Dw i'n gweddïo y bydd dy haelioni di wrth rannu gydag eraill yn cynyddu wrth i ti ddod i ddeall yn well gymaint o fendithion sydd gynnon ni yn ein perthynas â'r Meseia.

7. Mae dy gariad di wedi bod yn galondid ac yn achos llawenydd mawr i mi, ffrind annwyl, ac rwyt ti wedi bod yn gyfrwng i galonogi'r Cristnogion eraill hefyd.

8. Dyna pam dw i am ofyn ffafr i ti. Gallwn i siarad yn blaen a dweud wrthot ti beth i'w wneud, gan bod yr awdurdod wedi ei roi i mi gan y Meseia.

9. Ond am fy mod i'r math o berson ydw i – Paul yr hen ddyn bellach, ac yn y carchar dros achos y Meseia Iesu – mae'n well gen i apelio atat ti ar sail cariad.

10. Dw i'n apelio ar ran Onesimws, sydd fel mab i mi yn y ffydd. Ydw, dw i wedi ei arwain e i gredu tra dw i wedi bod yma yn y carchar.