beibl.net 2015

Nahum 2:12-13 beibl.net 2015 (BNET)

12. Ble mae'r llew oedd yn rhwygo'i ysglyfaeth –ei ladd i'w lewesau a'i roi i'w rai bach?Roedd ei ogof yn llawn ysglyfaetha'i ffau'n llawn cnawd wedi ei ddryllio.

13. “Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Bydda i'n llosgi dy gerbydau'n llwyr;bydd dy ‛lewod ifanc‛ yn marw'n y frwydr.Dw i'n mynd i gael gwared â'th ysglyfaeth o'r tir,a fydd neb eto'n clywed llais dy negeswyr.”