beibl.net 2015

Micha 7:11-20 beibl.net 2015 (BNET)

11. Y fath ddiwrnod fydd hwnnw! –diwrnod i ailadeiladu dy waliau;diwrnod i ehangu dy ffiniau!

12. Diwrnod pan fydd pobl yn dod atatyr holl ffordd o Asyria i drefi'r Aifft,o'r Aifft i'r Afon Ewffrates,o un arfordir i'r llall, ac o'r mynyddoedd pellaf.

13. Ond bydd gweddill y ddaear yn ddiffaith,o achos y ffordd mae pobl wedi byw.

14. ARGLWYDD, tyrd i fugeilio dy bobl,dy braidd arbennig dy hun;y rhai sy'n byw'n unig mewn tir llawn drysnitra mae porfa fras o'u cwmpas.Gad iddyn nhw bori ar gaeau Bashan a Gilead,fel roedden nhw'n gwneud ers talwm.

15. Gad iddyn nhw weld dy wyrthiau,fel yr adeg pan aethon nhw allan o wlad yr Aifft!

16. Bydd y gwledydd yn gweld hyn,a bydd eu grym yn troi'n gywilydd.Byddan nhw'n sefyll yn syn,ac fel petaen nhw'n clywed dim!

17. Byddan nhw'n llyfu'r llwch fel nadroeddneu bryfed yn llusgo ar y llawr.Byddan nhw'n ofni am eu bywydau,ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannaui dy wynebu di, yr ARGLWYDD ein Duw.

18. Oes duw tebyg i ti? – Na!Ti'n maddau pechodac yn anghofio gwrthryfely rhai sydd ar ôl o dy bobl.Dwyt ti ddim yn digio am byth;rwyt wrth dy fodd yn bod yn garedig a hael.

19. Byddi'n tosturio wrthon ni eto.Byddi'n delio gyda'n drygioni,ac yn taflu'n pechodau i waelod y môr.

20. Byddi'n ffyddlon i bobl Jacobac yn dangos dy drugaredd i blant Abraham –fel gwnest ti addo i'n hynafiaidamser maith yn ôl.