beibl.net 2015

Micha 5:6-15 beibl.net 2015 (BNET)

6. Byddan nhw'n rheoli Asyria gyda'r cleddyf;gwlad Nimrod gyda llafnau parod!Bydd ein brenin yn ein hachubpan fydd Asyria'n ymosod ar ein gwlad,ac yn ceisio croesi ein ffiniau.

7. Bydd pobl Jacob sydd ar ôlar wasgar yng nghanol y bobloedd,fel y gwlith mae'r ARGLWYDD yn ei anfon,neu gawodydd o law ar laswellt –sydd ddim yn dibynnu ar boblna disgwyl am eu caniatâd cyn dod.

8. Bydd pobl Jacob sydd ar ôlyn byw yn y gwledydd,ar wasgar yng nghanol y bobloedd.Byddan nhw fel llew yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion,neu lew ifanc yng nghanol praidd o ddefaid –yn rhydd i ladd a rhwygoheb neb i'w stopio.

9. Byddi'n codi dy law i daro'r rhai sy'n dy erbyn,a dinistrio dy elynion i gyd!

10. “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD,“bydda i'n cael gwared â'ch arfau i gyd –y ceffylau a'r cerbydau rhyfel.

11. Bydda i'n dinistrio trefi'r wladac yn bwrw i lawr y caerau amddiffynnol.

12. Bydda i'n stopio eich dewino a'ch swynion,a fydd neb ar ôl i ddweud ffortiwn.

13. Bydda i'n dinistrio eich delwau cerfiediga'ch colofnau cysegredig.Fyddwch chi byth eto yn plygui addoli gwaith eich dwylo eich hunain.

14. Bydda i'n diwreiddio polion y dduwies Ashera,ac yn dinistrio eich eilun-dduwiau.

15. Bydda i'n dial yn wylltar y gwledydd sy'n gwrthod gwrando arna i.”