beibl.net 2015

Micha 1:6-11 beibl.net 2015 (BNET)

6. “Dw i'n mynd i droi Samariayn bentwr o gerrig mewn cae agored –bydd yn lle i blannu gwinllannoedd!Dw i'n mynd i hyrddio ei waliau i'r dyffryna gadael dim ond sylfeini'n y golwg.

7. Bydd ei delwau'n cael eu dryllio,ei thâl am buteinio yn llosgi'n y tân,a'r eilunod metel yn bentwr o sgrap!Casglodd nhw gyda'i thâl am buteinio,a byddan nhw'n troi'n dâl i buteiniaid eto.”

8. Dyna pam dw i'n galaru a nadu,a cherdded heb sandalau ac mewn carpiau;yn udo'n uchel fel siacaliaid,a sgrechian cwyno fel cywion estrys.

9. Fydd salwch Samaria ddim yn gwella!Mae wedi lledu i Jwda –mae hyd yn oed arweinwyr fy mhoblyn Jerwsalem wedi dal y clefyd!

10. ‛Peidiwch dweud am y peth yn Gath!‛Peidiwch crïo rhag iddyn nhw eich clywed!Bydd pobl Beth-leaffra yn rholio yn y llwch.

11. Bydd pobl Shaffir yn pasio heibioyn noeth ac mewn cywilydd.Bydd pobl Saänan yn methu symud,a Beth-haetsel yn gwneud dim ond galaru –fydd hi ddim yn dy helpu eto.