beibl.net 2015

Micha 1:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Micha o Moresheth. Roedd yn proffwydo pan oedd Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda. Dyma ddangosodd Duw iddo am Samaria a Jerwsalem.

2. Gwrandwch, chi bobl i gyd!Cymrwch sylw, bawb sy'n byw drwy'r byd!Mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn dyst yn eich erbyn;mae'n eich cyhuddo chi o'i deml sanctaidd.

3. Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD yn dod!Mae'n dod i lawr ac yn sathru'r mynyddoedd!

4. Bydd y mynyddoedd yn dryllio dan ei draed,a'r dyffrynnoedd yn hollti.Bydd y creigiau'n toddi fel cwyr mewn tân,ac yn llifo fel dŵr ar y llethrau.