beibl.net 2015

Mathew 9:5-17 beibl.net 2015 (BNET)

5. Beth ydy'r peth hawsaf i'w ddweud – ‘Mae dy bechodau wedi eu maddau,’ neu, ‘Cod ar dy draed a cherdda’?

6. Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear …” Yna dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi ei barlysu, a dweud, “Saf ar dy draed, cymer dy fatras a dos adre.”

7. Yna cododd y dyn ar ei draed ac aeth adre.

8. Roedd y dyrfa wedi dychryn, ac yn moli Duw, am iddo roi'r fath awdurdod i ddyn.

9. Wrth i Iesu fynd yn ei flaen, gwelodd ddyn o'r enw Mathew yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a chododd Mathew ar unwaith a mynd ar ei ôl.

10. Yn nes ymlaen aeth Iesu a'i ddisgyblion i dŷ Mathew am bryd o fwyd. Daeth criw mawr o'r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain, a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‛bechaduriaid‛, i'r parti hefyd.

11. Wrth weld hyn, dyma'r Phariseaid yn gofyn i'w ddisgyblion, “Pam mae eich athro yn bwyta gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?”

12. Clywodd Iesu nhw, ac meddai, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl.

13. Mae'n bryd i chi ddysgu beth ydy ystyr y dywediad: ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau.’ Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai.”

14. Dyma ddisgyblion Ioan yn dod ato a gofyn iddo, “Dŷn ni a'r Phariseaid yn ymprydio, ond dydy dy ddisgyblion di ddim. Pam?”

15. Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i fod yn drist ac i alaru! Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab! Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw'n ymprydio bryd hynny.

16. “Does neb yn trwsio hen ddilledyn gyda chlwt o frethyn newydd sydd heb shrincio. Byddai'r clwt o frethyn yn tynnu ar y dilledyn ac yn achosi rhwyg gwaeth.

17. A dydy gwin sydd heb aeddfedu ddim yn cael ei dywallt i hen boteli crwyn. Wrth i'r gwin aeddfedu byddai'r crwyn yn byrstio ac yn difetha, a'r gwin yn cael ei golli. Na, rhaid tywallt y gwin i boteli crwyn newydd, a bydd y poteli a'r gwin yn cael ei gadw.”