47. Pan glywodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll yno hyn, medden nhw, “Mae'n galw ar y proffwyd Elias am help.”
48. Dyma un ohonyn nhw'n rhedeg ar unwaith i nôl ysbwng, a'i drochi mewn gwin sur rhad. Yna fe'i cododd ar flaen ffon i'w gynnig i Iesu i'w yfed.
49. Ond dyma'r lleill yn dweud, “Gad lonydd iddo, i ni gael gweld os daw Elias i'w achub.”
50. Yna ar ôl gweiddi'n uchel eto, dyma Iesu'n marw.
51. Dyna'n union pryd wnaeth y llen oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner o'r top i'r gwaelod. Roedd y ddaear yn crynu a'r creigiau yn hollti,
52. a chafodd beddau eu hagor. (Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw cododd cyrff llawer iawn o bobl dduwiol
53. allan o'u beddau, a mynd i mewn i Jerwsalem, y ddinas sanctaidd, a gwelodd llawer iawn o bobl nhw.)
54. Dyma'r daeargryn a phopeth arall ddigwyddodd yn dychryn y capten Rhufeinig a'i filwyr oedd wedi bod yn cadw golwg ar Iesu. Gwaeddodd, “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!”
55. Roedd nifer o wragedd wedi bod yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell. Roedden nhw wedi dilyn Iesu yr holl ffordd o Galilea i ofalu fod ganddo bopeth oedd arno'i angen.
56. Roedd Mair Magdalen yn un ohonyn nhw, Mair mam Iago a Joseff, a mam Iago a Ioan, sef gwraig Sebedeus hefyd.
57. Ychydig cyn iddi nosi, dyma ddyn o'r enw Joseff (dyn cyfoethog o Arimathea oedd yn un o ddilynwyr Iesu) yn mynd at Peilat.
58. Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu, a dyma Peilat yn gorchymyn rhoi'r corff iddo.
59. Dyma Joseff yn cymryd y corff a'i lapio mewn lliain glân.
60. Yna fe'i rhoddodd i orwedd yn ei fedd newydd ei hun, un wedi ei naddu yn y graig. Wedyn, ar ôl rholio carreg drom dros geg y bedd, aeth i ffwrdd.
61. Roedd Mair Magdalen a'r Fair arall wedi bod yno yn eistedd gyferbyn â'r bedd yn gwylio'r cwbl.