41. Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill yno hefyd yn cael sbort ymhlith ei gilydd.
42. “Roedd e'n achub pobl eraill,” medden nhw, “ond dydy e ddim yn gallu achub ei hun! Beth am i ni ei weld yn dod i lawr oddi ar y groes yna, os mai Brenin Israel ydy e! Gwnawn ni gredu wedyn!
43. Mae'n dweud ei fod e'n trystio Duw, gadewch i ni weld Duw yn ei achub e! Onid oedd e'n dweud ei fod yn Fab Duw?”
44. Roedd hyd yn oed y lladron gafodd eu croeshoelio gydag e yn ei sarhau a'i enllibio.
45. O ganol dydd hyd dri o'r gloch y p'nawn aeth yn hollol dywyll drwy'r wlad i gyd.
46. Yna am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu'n uchel, “Eli, Eli, lama sabachthani?” – sy'n golygu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?”
47. Pan glywodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll yno hyn, medden nhw, “Mae'n galw ar y proffwyd Elias am help.”
48. Dyma un ohonyn nhw'n rhedeg ar unwaith i nôl ysbwng, a'i drochi mewn gwin sur rhad. Yna fe'i cododd ar flaen ffon i'w gynnig i Iesu i'w yfed.
49. Ond dyma'r lleill yn dweud, “Gad lonydd iddo, i ni gael gweld os daw Elias i'w achub.”
50. Yna ar ôl gweiddi'n uchel eto, dyma Iesu'n marw.
51. Dyna'n union pryd wnaeth y llen oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner o'r top i'r gwaelod. Roedd y ddaear yn crynu a'r creigiau yn hollti,
52. a chafodd beddau eu hagor. (Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw cododd cyrff llawer iawn o bobl dduwiol
53. allan o'u beddau, a mynd i mewn i Jerwsalem, y ddinas sanctaidd, a gwelodd llawer iawn o bobl nhw.)