35. Ond meddai Pedr, “Na! Wna i byth wadu mod i'n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda thi!” Ac roedd y disgyblion eraill i gyd yn dweud yr un peth.
36. Dyma Iesu'n mynd gyda'i ddisgyblion i le o'r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i'n mynd draw acw i weddïo.”
37. Aeth â Pedr a dau fab Sebedeus gydag e, a dechreuodd deimlo tristwch ofnadwy a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu.
38. “Mae'r tristwch dw i'n ei deimlo yn ddigon i'm lladd i,” meddai wrthyn nhw, “Arhoswch yma i wylio gyda mi.”
39. Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb ar lawr a gweddïo, “Fy Nhad, gad i'r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny'n bosib. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”
40. Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Felly, allech chi ddim cadw golwg gyda mi am un awr fechan?
41. Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi. Mae'r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.”
42. Yna aeth i ffwrdd a gweddïo eto, “Fy Nhad, os ydy hi ddim yn bosib i'r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd heb i mi yfed ohono, gwna i beth rwyt ti eisiau.”
43. Ond pan ddaeth yn ôl, roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw'n methu'n lân â chadw eu llygaid ar agor.
44. Felly gadawodd nhw a mynd i ffwrdd i weddïo yr un peth eto y drydedd waith.
45. Yna daeth yn ôl at ei ddisgyblion a dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n cysgu eto? Yn dal i orffwys? Edrychwch! Mae'r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid.