beibl.net 2015

Mathew 22:7-21 beibl.net 2015 (BNET)

7. Roedd y brenin yn wyllt gynddeiriog. Anfonodd ei fyddin i ladd y llofruddion a llosgi eu tref.

8. “Yna meddai wrth ei weision, ‘Mae'r wledd briodas yn barod, ond doedd y rhai gafodd wahoddiad ddim yn haeddu cael dod.

9. Felly ewch i sefyll ar y priffyrdd sy'n mynd allan o'r ddinas, a gwahodd pwy bynnag ddaw heibio i ddod i'r wledd.’

10. Felly dyma'r gweision yn mynd allan i'r strydoedd a chasglu pawb allen nhw ddod o hyd iddyn nhw – y drwg a'r da. A llanwyd y neuadd briodas â gwesteion.

11. “Ond pan ddaeth y brenin i mewn i edrych ar y gwesteion, sylwodd fod yno un oedd ddim wedi ei wisgo mewn dillad addas ar gyfer priodas.

12. ‘Gyfaill,’ meddai wrtho, ‘sut wnest ti lwyddo i ddod i mewn yma heb fod yn gwisgo dillad ar gyfer priodas?’ Allai'r dyn ddim ateb.

13. “Yna dyma'r brenin yn dweud wrth ei weision, ‘Rhwymwch ei ddwylo a'i draed, a'i daflu allan i'r tywyllwch, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.’

14. “Mae llawer wedi cael gwahoddiad, ond ychydig sy'n cael eu dewis.”

15. Dyma'r Phariseaid yn mynd allan wedyn a chynllwynio sut i'w gornelu a'i gael i ddweud rhywbeth fyddai'n ei gael i drwbwl.

16. Dyma nhw'n anfon rhai o'u disgyblion ato gyda rhai o gefnogwyr Herod. “Athro,” medden nhw, “dŷn ni'n gwybod dy fod ti'n onest ac yn dysgu mai ffordd Duw ydy'r gwirionedd. Dwyt ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw.

17. Felly, beth ydy dy farn di? Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?”

18. Ond roedd Iesu'n gwybod mai drwg oedden nhw'n ei fwriadu, ac meddai wrthyn nhw, “Dych chi mor ddauwynebog! Pam dych chi'n ceisio nal i?

19. Dangoswch i mi ddarn arian sy'n cael ei ddefnyddio i dalu'r dreth.” Dyma nhw'n dod â darn arian iddo,

20. a dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?”

21. “Cesar,” medden nhw. Felly meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.”