30. Fydd pobl ddim yn priodi pan ddaw'r atgyfodiad; byddan nhw yr un fath â'r angylion yn y nefoedd.
31. A bydd atgyfodiad! – Ydych chi ddim wedi darllen beth ddwedodd Duw? –
32. ‘Fi ydy Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.’ Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw'r rhai sy'n fyw!”
33. Roedd y dyrfa yn rhyfeddu wrth glywed yr hyn oedd Iesu'n ei ddysgu.
34. Ar ôl clywed fod Iesu wedi rhoi taw ar y Sadwceaid, daeth y Phariseaid at ei gilydd.
35. Dyma un ohonyn nhw, oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith, yn gofyn cwestiwn i geisio ei faglu:
36. “Athro, Pa un o'r gorchmynion yn y Gyfraith ydy'r pwysica?”
37. Atebodd Iesu: “‘Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid a'th holl feddwl.’
38. Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysica.
39. Ond mae yna ail un sydd yr un fath: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.’