beibl.net 2015

Mathew 22:15-24 beibl.net 2015 (BNET)

15. Dyma'r Phariseaid yn mynd allan wedyn a chynllwynio sut i'w gornelu a'i gael i ddweud rhywbeth fyddai'n ei gael i drwbwl.

16. Dyma nhw'n anfon rhai o'u disgyblion ato gyda rhai o gefnogwyr Herod. “Athro,” medden nhw, “dŷn ni'n gwybod dy fod ti'n onest ac yn dysgu mai ffordd Duw ydy'r gwirionedd. Dwyt ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw.

17. Felly, beth ydy dy farn di? Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?”

18. Ond roedd Iesu'n gwybod mai drwg oedden nhw'n ei fwriadu, ac meddai wrthyn nhw, “Dych chi mor ddauwynebog! Pam dych chi'n ceisio nal i?

19. Dangoswch i mi ddarn arian sy'n cael ei ddefnyddio i dalu'r dreth.” Dyma nhw'n dod â darn arian iddo,

20. a dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?”

21. “Cesar,” medden nhw. Felly meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.”

22. Roedden nhw wedi eu syfrdanu pan glywon nhw ei ateb. Felly dyma nhw'n ei adael a mynd i ffwrdd.

23. Yr un diwrnod dyma rhai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn iddo. Roedden nhw'n dadlau fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.

24. “Athro,” medden nhw, “Dwedodd Moses, ‘os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i'w frawd briodi'r weddw a chael plant yn ei le.’”