beibl.net 2015

Mathew 22:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Iesu'n dweud stori arall wrthyn nhw:

2. “Mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i frenin yn rhoi gwledd briodas i'w fab.

3. Anfonodd ei weision i ddweud wrth y rhai oedd wedi cael gwahoddiad fod popeth yn barod, ond roedden nhw'n gwrthod dod.

4. “Anfonodd weision eraill i ddweud wrthyn nhw: ‘Mae'r wledd yn barod. Dw i wedi lladd teirw a bustych, felly dewch i'r wledd!’

5. “Ond wnaethon nhw ddim cymryd unrhyw sylw, dim ond cerdded i ffwrdd – un i'w faes, ac un arall i'w fusnes.

6. Yna dyma'r gweddill yn gafael yn y gweision a'u cam-drin nhw a'u lladd.

7. Roedd y brenin yn wyllt gynddeiriog. Anfonodd ei fyddin i ladd y llofruddion a llosgi eu tref.