beibl.net 2015

Mathew 21:31-37 beibl.net 2015 (BNET)

31. “Pa un o'r ddau fab wnaeth beth oedd y tad eisiau?” “Y cyntaf,” medden nhw. Meddai Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, bydd y rhai sy'n casglu trethi i Rufain a'r puteiniaid yn dod i berthyn i deyrnasiad Duw o'ch blaen chi!

32. Achos roedd Ioan wedi dod i ddangos y ffordd iawn i chi, a dyma chi'n gwrthod ei gredu. Ond dyma'r bobl sy'n casglu trethi i Rufain a'r puteiniaid yn credu! A hyd yn oed ar ôl gweld hynny'n digwydd, wnaethoch chi ddim newid eich meddwl a'i gredu e!

33. “Gwrandwch ar stori arall: Roedd rhyw ddyn a thir ganddo wedi plannu gwinllan. Cododd ffens o'i chwmpas, cloddio lle i wasgu'r sudd o'r grawnwin ac adeiladu tŵr i'w gwylio. Yna gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd ar daith bell.

34. “Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin, anfonodd weision at y tenantiaid i nôl ei siâr o'r ffrwyth.

35. Ond dyma'r tenantiaid yn gafael yn y gweision, ac yn ymosod ar un, lladd un arall, a llabyddio un arall gyda cherrig.

36. Felly dyma'r dyn yn anfon gweision eraill, mwy ohonyn nhw y tro yma, ond dyma'r tenantiaid yn gwneud yr un peth i'r rheiny.

37. “Yn y diwedd dyma'r dyn yn anfon ei fab atyn nhw. ‘Byddan nhw'n parchu fy mab i,’ meddai.