2. “Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i asen wedi ei rhwymo a'i hebol gyda hi. Dewch â nhw yma i mi,
3. ac os bydd rhywun yn ceisio'ch rhwystro, dwedwch, ‘Mae'r meistr eu hangen nhw; bydd yn eu hanfon yn ôl wedyn.’”
4. Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir:
5. “Dywed wrth bobl Seion, ‘Edrych! Mae dy frenin yn dod! Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asen; ie, ar ebol asyn.’”
6. I ffwrdd â'r disgyblion, a gwneud yn union beth ddwedodd Iesu wrthyn nhw.
7. Pan ddaethon nhw â'r asen a'i hebol yn ôl, dyma nhw'n taflu eu cotiau arnyn nhw, a dyma Iesu'n eistedd ar gefn yr ebol.
8. Dechreuodd y dyrfa daflu eu cotiau fel carped ar y ffordd o'i flaen, neu dorri dail o'r coed a'u lledu ar y ffordd.
9. Roedd y dyrfa y tu blaen a'r tu ôl iddo yn gweiddi,“Clod i Fab Dafydd!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!” “Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!”
10. Roedd y ddinas gyfan mewn cynnwrf pan aeth Iesu i mewn i Jerwsalem. “Pwy ydy hwn?” meddai rhai.
11. Ac roedd y dyrfa o'i gwmpas yn ateb, “Iesu, y proffwyd o Nasareth yn Galilea.”
12. Aeth Iesu i mewn i gwrt y deml a gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod.
13. Yna dwedodd, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi.’ Ond dych chi'n ei droi yn ‘guddfan i ladron’!”