beibl.net 2015

Mathew 20:9-15 beibl.net 2015 (BNET)

9. “Dyma'r gweithwyr oedd wedi dechrau tua pump o'r gloch y p'nawn yn dod ac yn cael un darn arian bob un.

10. Felly pan ddaeth y rhai gafodd eu cyflogi yn gynnar yn y bore, roedden nhw'n disgwyl derbyn mwy. Ond un darn arian gafodd pob un ohonyn nhw hefyd.

11. Wrth dderbyn eu tâl dyma nhw'n dechrau cwyno.

12. ‘Dim ond am awr weithiodd y rhai olaf yna,’ medden nhw, ‘A dych chi wedi rhoi'r un faint iddyn nhw ag i ni sydd wedi gweithio'n galed drwy'r dydd.’

13. “Ond meddai'r dyn busnes wrth un ohonyn nhw, ‘Gwranda gyfaill, dw i ddim yn annheg. Gwnest ti gytuno i weithio am y cyflog arferol, hynny ydy un darn arian am ddiwrnod o waith.

14. Felly cymer dy gyflog a dos adre. Fy newis i ydy rhoi'r un faint i'r person olaf un i gael ei gyflogi.

15. Mae gen i hawl i wneud beth fynna i gyda f'arian fy hun! Ai bod yn hunanol wyt ti am fy mod i'n dewis bod yn hael?’