beibl.net 2015

Mathew 19:9-21 beibl.net 2015 (BNET)

9. Wir i chi, mae unrhyw un sy'n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu, oni bai fod ei wraig wedi bod yn anffyddlon iddo.”

10. Meddai'r disgyblion wrtho, “Mae'n well i ddyn beidio priodi o gwbl os mai fel yna y mae hi!”

11. Atebodd Iesu, “All pawb ddim derbyn y peth, ond mae Duw wedi rhoi'r gallu i rai.

12. Mae rhai pobl wedi eu geni'n eunuchiaid, eraill wedi cael eu sbaddu a'u gwneud yn eunuchiaid, ac mae rhai yn dewis peidio priodi er mwyn gwasanaethu teyrnas yr Un nefol. Dylai'r rhai sydd â'r gallu i dderbyn hyn ei dderbyn.”

13. Dyma bobl yn dod â'u plant bach at Iesu er mwyn iddo roi ei ddwylo arnyn nhw a gweddïo drostyn nhw. Ond roedd y disgyblion yn dweud y drefn wrthyn nhw.

14. Ond meddai Iesu, “Gadewch i'r plant bach ddod ata i. Peidiwch â'u rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad yr Un nefol.”

15. Ar ôl iddo roi ei ddwylo arnyn nhw, aeth yn ei flaen oddi yno.

16. Daeth dyn at Iesu a gofyn iddo, “Athro, pa weithred dda sy'n rhaid i mi ei gwneud i gael bywyd tragwyddol?”

17. “Pam wyt ti'n gofyn i mi am beth sy'n dda?” atebodd Iesu. “Does dim ond Un sy'n dda, a Duw ydy hwnnw. Os wyt ti eisiau mynd i'r bywyd, ufuddha i'r gorchmynion.”

18. “Pa rai?” meddai. Atebodd Iesu, “‘Peidio llofruddio, peidio godinebu, peidio dwyn, peidio rhoi tystiolaeth ffals,

19. gofalu am dy dad a dy fam,’ a ‘caru dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun’.”

20. “Dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd,” meddai'r dyn ifanc. “Ond mae rhywbeth ar goll.”

21. Atebodd Iesu, “Os wyt ti am gyrraedd y nod, dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho'r arian i bobl dlawd. Wedyn cei drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”