beibl.net 2015

Mathew 18:16-26 beibl.net 2015 (BNET)

16. Ond os fydd e ddim yn gwrando arnat, dos ag un neu ddau o bobl gyda ti, achos ‘rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.’

17. Os bydd yn dal i wrthod gwrando, dos â'r mater o flaen yr eglwys. Ac os bydd hyd yn oed yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, dylid ei drin fel pagan neu'r rhai sy'n casglu trethi i Rufain!

18. “Credwch chi fi, bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu rhwystro ar y ddaear wedi eu rhwystro yn y nefoedd, a bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu caniatáu ar y ddaear wedi eu caniatáu yn y nefoedd.

19. “A pheth arall hefyd: Pan mae dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i ofyn am arweiniad wrth ddelio ag unrhyw fater, cewch hynny gan fy Nhad yn y nefoedd.

20. Pan mae dau neu dri sy'n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw.”

21. Gofynnodd Pedr i Iesu, “Arglwydd, sawl gwaith ddylwn i faddau i frawd neu chwaer sy'n dal i bechu yn fy erbyn? Gymaint â saith gwaith?”

22. Atebodd Iesu, “Na, wir i ti, dim saith gwaith, ond o leia saith deg saith gwaith!

23. “Dyna sut mae'r Un nefol yn teyrnasu – mae fel brenin oedd wedi benthyg arian i'w swyddogion, ac am archwilio'r cyfrifon.

24. Roedd newydd ddechrau ar y gwaith pan ddaethon nhw â dyn o'i flaen oedd mewn dyled o filiynau lawer iddo.

25. Doedd y swyddog ddim yn gallu talu'r ddyled, felly gorchmynnodd y meistr i'r dyn a'i wraig a'i blant gael eu gwerthu yn gaethweision, a bod y cwbl o'i eiddo i gael ei werthu hefyd, i dalu'r ddyled.

26. “Syrthiodd y dyn ar ei liniau o'i flaen, a phledio, ‘Rho amser i mi, a tala i'r cwbl yn ôl i ti.’