28. Atebodd Iesu, “Wraig annwyl, mae gen ti lot o ffydd! Cei beth ofynnaist amdano.” A dyna'r union adeg y cafodd ei merch ei hiacháu.
29. Pan adawodd Iesu'r ardal honno, teithiodd ar lan Llyn Galilea. Yna aeth i ben mynydd ac eistedd i lawr.
30. Daeth tyrfaoedd mawr o bobl ato, gyda phobl oedd yn gloff, neu'n ddall, neu'n anabl, neu'n fud. Cawson nhw eu gosod o'i flaen, a iachaodd nhw.
31. Roedd y bobl wedi eu syfrdanu wrth weld y mud yn siarad, pobl anabl wedi cael eu hiacháu, y cloff yn cerdded a'r dall yn gweld. A dyma nhw'n dechrau moli Duw Israel.
32. Dyma Iesu'n galw ei ddisgyblion ato a dweud, “Dw i'n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i'w fwyta. Dw i ddim am iddyn nhw fynd i ffwrdd heb gael rhywbeth i'w fwyta, rhag iddyn nhw lewygu ar y ffordd.”
33. Meddai'r disgyblion, “Ble gawn ni ddigon o fara i fwydo'r fath dyrfa mewn lle mor anial!”
34. “Sawl torth o fara sydd gynnoch chi?” meddai Iesu.“Saith,” medden nhw, “a rhyw ychydig o bysgod bach.”
35. Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr.
36. Cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'r disgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl.
37. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben.
38. Roedd pedair mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant!
39. Ar ôl i Iesu anfon y dyrfa adre aeth i mewn i'r cwch a chroesi i ardal Magadan.