beibl.net 2015

Mathew 13:44-58 beibl.net 2015 (BNET)

44. “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel trysor wedi ei guddio mewn cae. Dyma rywun yn ei ffeindio ac yna'n ei guddio eto. Wedyn mynd yn llawen a gwerthu popeth oedd ganddo er mwyn gallu prynu'r cae hwnnw.

45. “Mae teyrnasiad yr Un nefol hefyd yn debyg i fasnachwr yn casglu perlau gwerthfawr.

46. Ar ôl dod o hyd i un perl arbennig o werthfawr, mae'n mynd i ffwrdd ac yn gwerthu'r cwbl sydd ganddo er mwyn gallu prynu'r un perl hwnnw.

47. “Unwaith eto, mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i rwyd sy'n cael ei gollwng i'r llyn a phob math o bysgod yn cael eu dal ynddi.

48. Mae'r pysgotwyr yn llusgo'r rhwyd lawn i'r lan. Wedyn mae'r pysgod da yn cael eu cadw a'u storio, ond y pysgod diwerth yn cael eu taflu i ffwrdd.

49. Dyna fydd yn digwydd pan ddaw diwedd y byd. Bydd yr angylion yn dod i gasglu'r bobl ddrwg o blith y bobl wnaeth beth sy'n iawn,

50. ac yn eu taflu nhw i'r ffwrnais dân, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.

51. “Ydych chi wedi deall hyn i gyd?” gofynnodd Iesu.“Ydyn,” medden nhw.

52. Yna meddai wrthyn nhw, “Felly mae pob athro yn yr ysgrifau sanctaidd sydd wedi ymostwng i deyrnasiad yr Un nefol fel perchennog tir sy'n dod â thrysorau newydd a hen allan o'i ystordy.”

53. Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y straeon yma, aeth yn ôl

54. i Nasareth lle cafodd ei fagu. Dechreuodd ddysgu'r bobl yn eu synagog, ac roedden nhw'n rhyfeddu ato. “Ble gafodd hwn y fath ddoethineb, a'r gallu yma i wneud gwyrthiau?” medden nhw.

55. “Mab y saer ydy e! Onid Mair ydy ei fam? Onid Iago, Joseff, Simon a Jwdas ydy ei frodyr?

56. Mae ei chwiorydd i gyd yn byw yma! Felly, ble cafodd e hyn i gyd?”

57. Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw: “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn yr ardal lle cafodd ei fagu, a chan ei deulu ei hun!”

58. Wnaeth Iesu ddim llawer o wyrthiau yno am eu bod nhw ddim yn credu.