4. Aeth i mewn i dŷ Dduw, a bwyta'r bara oedd wedi ei gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud fod ganddo fe a'i ddilynwyr ddim hawl i'w fwyta; dim ond yr offeiriaid oedd â hawl.
5. Neu ydych chi ddim wedi darllen beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud am y Saboth? Mae'r offeiriaid yn torri rheolau'r Saboth trwy weithio yn y deml! Ac eto maen nhw'n cael eu cyfri'n ddieuog.
6. Gwrandwch – mae rhywbeth mwy na'r deml yma!
7. Petaech chi wedi deall ystyr y gosodiad, ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau,’ fyddech chi ddim yn condemnio'r dieuog.
8. Mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn ar y Saboth.”
9. Aeth oddi yno a mynd i'w synagog nhw,
10. ac roedd dyn yno oedd â'i law yn ddiffrwyth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i gyhuddo Iesu, felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod hi'n iawn i iacháu pobl ar y Saboth?”
11. Atebodd nhw, “Petai dafad un ohonoch chi'n syrthio i ffos ar y Saboth, fyddech chi ddim yn mynd i'w chodi hi allan?
12. Mae person yn llawer mwy gwerthfawr na dafad! Felly, ydy, mae'n iawn yn ôl y Gyfraith i wneud daioni ar y Saboth.”
13. Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr, nes ei bod mor gryf â'r llaw arall.
14. Ond dyma'r Phariseaid yn mynd allan i drafod sut allen nhw ladd Iesu.
15. Roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd, ac aeth i ffwrdd oddi yno. Roedd llawer o bobl yn ei ddilyn, ac iachaodd bob un ohonyn nhw oedd yn glaf,
16. ond roedd yn eu rhybuddio i beidio dweud pwy oedd e.
17. Dyma sut daeth yr hyn ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn wir: