beibl.net 2015

Mathew 10:37-42 beibl.net 2015 (BNET)

37. “Dydy'r sawl sy'n caru ei dad a'i fam yn fwy na fi ddim yn haeddu perthyn i mi; a dydy'r sawl sy'n caru mab neu ferch yn fwy na fi ddim yn haeddu perthyn i mi;

38. Dydy'r sawl sydd ddim yn codi ei groes, a cherdded yr un llwybr o hunanaberth â mi, ddim yn haeddu perthyn i mi.

39. Bydd y sawl sy'n ceisio amddiffyn ei fywyd yn colli'r bywyd go iawn, ond y sawl sy'n barod i ollwng gafael ar ei fywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn iddo'i hun.

40. “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i chi yn rhoi croeso i mi, a phwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn rhoi croeso i Dduw, yr un sydd wedi f'anfon i.

41. Bydd pwy bynnag sy'n rhoi croeso i broffwyd am ei fod yn cyhoeddi neges Duw yn derbyn yr un wobr â'r proffwyd, a phwy bynnag sy'n rhoi croeso i un cyfiawn am ei fod yn gwneud beth sy'n iawn yng ngolwg Duw yn derbyn yr un wobr â'r un cyfiawn.

42. Does ond rhaid i rywun roi diod o ddŵr oer i un o'r rhai bach yma sy'n ddilynwyr i mi, a chredwch chi fi, bydd y person yna'n siŵr o gael ei wobr.”