beibl.net 2015

Mathew 10:17-30 beibl.net 2015 (BNET)

17. “Gwyliwch eich hunain! Bydd pobl yn eich dwyn o flaen yr awdurdodau ac yn eich chwipio yn eu synagogau.

18. Cewch eich llusgo o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd a'ch cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi, a byddwch yn tystiolaethu iddyn nhw ac i bobl o wledydd eraill amdana i.

19. Pan gewch eich arestio, peidiwch poeni beth i'w ddweud o flaen y llys na sut i'w ddweud. Bydd y peth iawn i'w ddweud yn dod i chi ar y pryd.

20. Dim chi fydd yn siarad, ond Ysbryd eich Tad fydd yn siarad trwoch chi.

21. “Bydd dyn yn bradychu ei frawd i gael ei ladd, a thad yn bradychu ei blentyn. Bydd plant yn troi yn erbyn eu rhieni, ac yn eu rhoi i'r awdurdodau i'w dienyddio.

22. Bydd pawb yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi, ond bydd y rhai sy'n sefyll yn gadarn i'r diwedd un yn cael eu hachub.

23. Pan fyddwch yn cael eich erlid yn un lle, ffowch i rywle arall. Credwch chi fi, fyddwch chi ddim wedi gorffen mynd trwy drefi Israel cyn i mi, Mab y Dyn, ddod mewn gogoniant.

24. “Dydy disgybl ddim yn dysgu ei athro, a dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr.

25. Mae'n ddigon i ddisgybl fod yn debyg i'w athro, ac i gaethwas fod yn gyfartal â'i feistr. Os ydy pennaeth y tŷ yn cael ei alw'n Beelsebwl (hynny ydy y diafol), ydy pawb arall yn y teulu yn disgwyl cael pethau'n haws?

26. “Felly peidiwch â'u hofni nhw. Bydd popeth sydd wedi ei guddio yn dod i'r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu.

27. Yr hyn dw i'n ei ddweud o'r golwg, dwedwch chi'n agored yng ngolau dydd; beth sy'n cael ei sibrwd yn eich clust, cyhoeddwch yn uchel o bennau'r tai.

28. Peidiwch bod ofn pobl. Maen nhw'n gallu lladd y corff ond fedran nhw ddim lladd y person go iawn. Duw ydy'r un i'w ofni – mae'r gallu ganddo e i ddinistrio'r person a'i gorff yn uffern.

29. Beth ydy gwerth aderyn y to? Dych chi'n gallu prynu dau ohonyn nhw am newid mân! Ond does dim un aderyn bach yn syrthio'n farw heb i'ch Tad wybod am y peth.

30. Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi!