beibl.net 2015

Mathew 10:10-20 beibl.net 2015 (BNET)

10. dim bag teithio, na dillad sbâr na sandalau sbâr na ffon. Mae'r gweithiwr yn haeddu ei fara menyn.

11. “Ble bynnag ewch chi, i dref neu bentref, edrychwch am rywun sy'n barod i'ch croesawu, ac aros yng nghartre'r person hwnnw nes byddwch yn gadael yr ardal.

12. Wrth fynd i mewn i'r cartref, cyfarchwch y rhai sy'n byw yno.

13. Os oes croeso yno, bydd yn cael ei fendithio; os oes dim croeso yno, cymerwch y fendith yn ôl.

14. Os bydd rhywun yn gwrthod rhoi croeso i chi ac yn gwrthod gwrando ar eich neges chi, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed pan fyddwch yn gadael y tŷ neu'r dref honno.

15. Credwch chi fi, bydd hi'n well ar dir Sodom a Gomorra ar ddydd y farn nag ar y dref honno!

16. Dw i'n eich anfon chi allan fel defaid i ganol pac o fleiddiaid. Felly byddwch yn graff fel nadroedd ond yn ddiniwed fel colomennod.

17. “Gwyliwch eich hunain! Bydd pobl yn eich dwyn o flaen yr awdurdodau ac yn eich chwipio yn eu synagogau.

18. Cewch eich llusgo o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd a'ch cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi, a byddwch yn tystiolaethu iddyn nhw ac i bobl o wledydd eraill amdana i.

19. Pan gewch eich arestio, peidiwch poeni beth i'w ddweud o flaen y llys na sut i'w ddweud. Bydd y peth iawn i'w ddweud yn dod i chi ar y pryd.

20. Dim chi fydd yn siarad, ond Ysbryd eich Tad fydd yn siarad trwoch chi.