1. Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw ysbrydion drwg allan o bobl a iacháu pob afiechyd a salwch.
2. Dyma enwau'r deuddeg oedd i'w gynrychioli: Simon (oedd yn cael ei alw yn Pedr), Andreas (brawd Pedr), Iago fab Sebedeus, Ioan (brawd Iago),
3. Philip, Bartholomeus, Tomos, a Mathew (oedd yn casglu trethi i Rufain), Iago fab Alffeus, Thadeus,
4. Simon y Selot a Jwdas Iscariot (yr un a'i bradychodd).
5. Nhw oedd y deuddeg anfonodd Iesu allan. A dyma fe'n rhoi'r cyfarwyddiadau yma iddyn nhw: “Peidiwch mynd at y cenhedloedd eraill nac i mewn i un o bentrefi'r Samariaid.
6. Ewch yn lle hynny at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll.
7. Dyma'r neges i chi ei chyhoeddi wrth fynd: ‘Mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.’
8. Ewch i iacháu pobl sy'n glaf, dod â phobl sydd wedi marw yn ôl yn fyw, iacháu'r rhai sy'n dioddef o'r gwahanglwyf, a bwrw allan gythreuliaid o fywydau pobl. Gan eich bod wedi derbyn y cwbl am ddim, rhowch yn rhad ac am ddim.
9. Peidiwch cymryd arian, na hyd yn oed newid mân, gyda chi;
10. dim bag teithio, na dillad sbâr na sandalau sbâr na ffon. Mae'r gweithiwr yn haeddu ei fara menyn.