beibl.net 2015

Marc 1:9-21 beibl.net 2015 (BNET)

9. Tua'r adeg yna daeth Iesu o Nasareth, Galilea i gael ei fedyddio gan Ioan yn yr Iorddonen.

10. Yr eiliad y daeth Iesu allan o'r dŵr, gwelodd yr awyr yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd Glân yn disgyn arno fel colomen.

11. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i'n llwyr.”

12. Yn syth wedyn dyma'r Ysbryd yn gyrru Iesu allan i'r anialwch.

13. Arhosodd yno am bedwar deg diwrnod, yn cael ei demtio gan Satan. Roedd anifeiliaid gwylltion o'i gwmpas, ond roedd yno angylion yn gofalu amdano.

14. Ar ôl i Ioan gael ei roi yn y carchar aeth Iesu i Galilea a chyhoeddi newyddion da Duw.

15. “Mae'n amser!” meddai. “Mae'r foment wedi dod! Mae Duw yn dod i deyrnasu! Trowch gefn ar bechod a chredu'r newyddion da!”

16. Pan oedd Iesu'n cerdded wrth Lyn Galilea, gwelodd ddau frawd, Simon ac Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn.

17. “Dewch,” meddai Iesu, “dilynwch fi, a gwna i chi'n bysgotwyr sy'n dal pobl yn lle pysgod.”

18. Heb oedi dyma'r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl.

19. Ychydig yn nes ymlaen gwelodd Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw wrthi'n trwsio eu rhwydi yn eu cwch.

20. Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd, a dyma nhw'n gadael eu tad Sebedeus gyda'r gweision yn y cwch a dechrau dilyn Iesu.

21. Wedyn dyma nhw'n mynd i Capernaum. Ar y dydd Saboth (pan oedd yr Iddewon yn addoli Duw), aeth Iesu i'r synagog a dechrau dysgu'r bobl.