beibl.net 2015

Marc 1:38-45 beibl.net 2015 (BNET)

38. Atebodd Iesu, “Gadewch i ni fynd yn ein blaenau i'r pentrefi nesa, i mi gael cyhoeddi'r newyddion da yno hefyd. Dyna pam dw i yma.”

39. Felly teithiodd o gwmpas Galilea, yn pregethu yn y synagogau a bwrw cythreuliaid allan o bobl.

40. Dyma ddyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod ato ac yn pledio ar ei liniau o'i flaen, “Gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.”

41. Yn llawn tosturi, dyma Iesu yn estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân!”

42. Dyma'r gwahanglwyf yn diflannu y foment honno. Cafodd y dyn ei iacháu.

43. Dyma Iesu'n rhybuddio'r dyn yn llym cyn gadael iddo fynd:

44. “Gwna'n siŵr dy fod ti ddim yn dweud wrth unrhyw un beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad a chyflwyno beth ddwedodd Moses y dylet ei gyflwyno, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.”

45. Ond dyma'r dyn yn dechrau mynd o gwmpas yn dweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd. O ganlyniad, doedd Iesu ddim yn gallu mynd a dod yn agored mewn unrhyw dref. Roedd yn aros allan mewn lleoedd unig. Ond roedd pobl yn dal i ddod ato o bob cyfeiriad!