beibl.net 2015

Marc 1:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae'r newyddion da am Iesu y Meseia, Mab Duw yn dechrau fel hyn:

2. Mae'n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia: “Edrych – dw i'n anfon fy negesydd o dy flaen di, i baratoi'r ffordd i ti” –

3. “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!’”

4. Dyna beth wnaeth Ioan – roedd yn bedyddio pobl yn yr anialwch ac yn cyhoeddi fod hyn yn arwydd eu bod yn troi cefn ar eu pechodau ac yn derbyn maddeuant gan Dduw.

5. Roedd pobl cefn gwlad Jwdea a dinas Jerwsalem yn heidio allan ato. Pan oedden nhw'n cyfaddef eu pechodau roedd yn eu bedyddio nhw yn Afon Iorddonen.

6. Roedd Ioan yn gwisgo dillad o flew camel gyda belt lledr am ei ganol, ac roedd yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt.

7. Dyma oedd ei neges: “Mae un llawer mwy grymus na fi yn dod ar fy ôl i – fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas yn plygu i lawr i ddatod carrai ei sandalau.

8. Dw i'n defnyddio dŵr i'ch bedyddio chi, ond bydd hwn yn eich bedyddio chi â'r Ysbryd Glân.”

9. Tua'r adeg yna daeth Iesu o Nasareth, Galilea i gael ei fedyddio gan Ioan yn yr Iorddonen.

10. Yr eiliad y daeth Iesu allan o'r dŵr, gwelodd yr awyr yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd Glân yn disgyn arno fel colomen.

11. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i'n llwyr.”