6. A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i blanhigyn bach dyfu uwch ben Jona. Roedd i gysgodi drosto, i'w gadw rhag bod yn rhy anghyfforddus. Roedd Jona wrth ei fodd gyda'r planhigyn.
7. Ond yn gynnar iawn y bore wedyn dyma Duw yn anfon pryfyn i ymosod ar y planhigyn, a dyma fe'n gwywo.
8. Yna yn ystod y dydd dyma Duw yn anfon gwynt poeth o'r dwyrain. Roedd yr haul mor danbaid nes bod Jona bron llewygu. Roedd e eisiau marw, a dyma fe'n gweiddi, “Byddai'n well gen i farw na byw!”
9. Ond dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Ydy'n iawn i ti fod wedi gwylltio fel yma o achos planhigyn bach?” Ac meddai Jona, “Ydy, mae yn iawn. Dw i yn wyllt!”
10. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho:“Ti wedi cynhyrfu am blanhigyn bach wnest ti ddim gofalu amdano na gwneud iddo dyfu. Roedd e wedi tyfu dros nos a gwywo'r diwrnod wedyn!