beibl.net 2015

Jeremeia 8:2-9 beibl.net 2015 (BNET)

2. Byddan nhw'n cael eu gosod allan dan yr haul a'r lleuad a'r sêr. Dyma'r ‛duwiau‛ roedden nhw'n eu caru a'u gwasanaethu, yn addo bod yn ffyddlon iddyn nhw, yn ceisio arweiniad ganddyn nhw ac yn eu haddoli. A fydd yr esgyrn ddim yn cael eu casglu eto i'w claddu. Byddan nhw'n gorwedd fel tail ar wyneb y tir!

3. “Bydd rhai o'r bobl ddrwg yma wedi byw drwy'r cwbl a'u hanfon i ffwrdd i leoedd eraill. Ond byddai'n well gan y rheiny petaen nhw wedi marw!”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

4. “Jeremeia, dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:‘Pan mae pobl yn syrthio, ydyn nhw ddim yn codi eto?Pan maen nhw'n colli'r ffordd, ydyn nhw ddim yn troi yn ôl?

5. Os felly, pam mae'r bobl yma'n dal i fynd y ffordd arall?Pam mae pobl Jerwsalem yn dal i droi cefn arna i?Maen nhw'n dal gafael mewn twyll,ac yn gwrthod troi'n ôl ata i.

6. Dw i wedi gwrando'n ofalus arnyn nhw,a dŷn nhw ddim yn dweud y gwir.Does neb yn sori am y drwg maen nhw wedi ei wneud;neb yn dweud, “Dw i ar fai.”Maen nhw i gyd yn mynd eu ffordd eu hunain,fel ceffyl yn rhuthro i'r frwydr.

7. Mae'r crëyr yn gwybod pryd i ymfudo,a'r durtur, y wennol a'r garan.Maen nhw i gyd yn dod yn ôl ar yr adeg iawn o'r flwyddyn.Ond dydy fy mhobl i'n cymryd dim sylwo'r hyn dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ofyn ganddyn nhw.

8. Sut allwch chi ddweud, “Dŷn ni'n ddoeth,mae Cyfraith yr ARGLWYDD gynnon ni.”?Y gwir ydy fod athrawon y gyfraith yn ysgrifennu pethausy'n gwyrdroi beth mae'n ei ddweud go iawn.

9. Bydd y dynion doeth yn cael eu cywilyddio.Byddan nhw'n syfrdan wrth gael eu cymryd i'r ddalfa.Nhw wnaeth wrthod neges yr ARGLWYDD –dydy hynny ddim yn ddoeth iawn!