beibl.net 2015

Jeremeia 8:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Meddai'r ARGLWYDD, “Bryd hynny, bydd esgyrn brenhinoedd Jwda yn cael eu cymryd allan o'u beddau; ac esgyrn y swyddogion hefyd, a'r offeiriaid a'r proffwydi, a phawb arall oedd yn byw yn Jerwsalem.

2. Byddan nhw'n cael eu gosod allan dan yr haul a'r lleuad a'r sêr. Dyma'r ‛duwiau‛ roedden nhw'n eu caru a'u gwasanaethu, yn addo bod yn ffyddlon iddyn nhw, yn ceisio arweiniad ganddyn nhw ac yn eu haddoli. A fydd yr esgyrn ddim yn cael eu casglu eto i'w claddu. Byddan nhw'n gorwedd fel tail ar wyneb y tir!

3. “Bydd rhai o'r bobl ddrwg yma wedi byw drwy'r cwbl a'u hanfon i ffwrdd i leoedd eraill. Ond byddai'n well gan y rheiny petaen nhw wedi marw!”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

4. “Jeremeia, dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:‘Pan mae pobl yn syrthio, ydyn nhw ddim yn codi eto?Pan maen nhw'n colli'r ffordd, ydyn nhw ddim yn troi yn ôl?

5. Os felly, pam mae'r bobl yma'n dal i fynd y ffordd arall?Pam mae pobl Jerwsalem yn dal i droi cefn arna i?Maen nhw'n dal gafael mewn twyll,ac yn gwrthod troi'n ôl ata i.