beibl.net 2015

Jeremeia 7:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia:

2. “Dos i sefyll wrth y giât i deml yr ARGLWYDD, a chyhoeddi'r neges yma: ‘Bobl Jwda, sy'n mynd i mewn drwy'r giatiau yma i addoli'r ARGLWYDD, gwrandwch!

3. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud fod rhaid i chi ddechrau newid eich ffyrdd. Os gwnewch chi, cewch chi aros yn eich gwlad.

4. Peidiwch credu'r twyll sy'n addo y byddwch chi'n saff wrth ddweud, “Teml yr ARGLWYDD ydy hon! Teml yr ARGLWYDD ydy hi! Teml yr ARGLWYDD!”

5. “‘Rhaid i chi newid eich ffyrdd, dechrau trin pobl eraill yn deg,

6. peidio cam-drin mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Peidio lladd pobl ddiniwed ac addoli eilun-dduwiau paganaidd. Dych chi ond yn gwneud drwg i chi'ch hunain!

7. Os newidiwch chi eich ffyrdd, bydda i'n gadael i chi aros yn y wlad yma, sef y wlad rois i i'ch hynafiaid chi i'w chadw am byth bythoedd.

8. “‘Ond dyma chi, yn credu'r celwydd fydd ddim help i chi yn y diwedd!

9. Ydy'n iawn eich bod chi'n dwyn, llofruddio, godinebu, dweud celwydd ar lw, llosgi arogldarth i Baal, ac addoli eilun-dduwiau dych chi'n gwybod dim amdanyn nhw,

10. ac wedyn dod i sefyll yn y deml yma – fy nheml i – a dweud “Dŷn ni'n saff!”? Yna cario ymlaen i wneud yr holl bethau ffiaidd yna!

11. Ydy'r deml yma – fy nheml i – wedi troi yn guddfan i ladron? Gwyliwch eich hunain! Dw i wedi gweld beth ydych chi'n wneud,’” meddai'r ARGLWYDD.

12. “‘Ewch i Seilo, ble roeddwn i'n cael fy addoli o'r blaen. Ewch i weld beth wnes i yno, o achos yr holl bethau drwg wnaeth fy mhobl – pobl Israel.

13. A nawr, dych chi'n gwneud yr un pethau!’” meddai'r ARGLWYDD. “‘Dw i wedi ceisio dweud wrthoch chi dro ar ôl tro, ond doeddech chi ddim am wrando. Roeddwn i'n galw arnoch chi, ond doeddech chi ddim am ateb.

14. Felly, dw i'n mynd i ddinistrio'r deml yma dych chi'n meddwl fydd yn eich cadw chi'n saff – ie, fy nheml i fy hun. Dw i'n mynd i ddinistrio'r lle yma rois i i chi a'ch hynafiaid, yn union fel y gwnes i ddinistrio Seilo!

15. Dw i'n mynd i'ch gyrru chi o'm golwg i, yn union fel gwnes i yrru pobl Israel i ffwrdd.’”