beibl.net 2015

Jeremeia 52:16-22 beibl.net 2015 (BNET)

16. Ond gadawodd rai o'r bobl mwyaf tlawd yn y wlad, a rhoi gwinllannoedd a tir iddyn nhw edrych ar ei ôl.

17. Wedyn dyma'r Babiloniaid yn malu'r offer pres oedd yn y deml – y ddwy golofn bres, y trolïau pres, a'r basn mawr pres oedd yn cael ei alw “Y Môr”. A dyma nhw'n cario'r metel yn ôl i Babilon.

18. Dyma nhw hefyd yn cymryd y bwcedi lludw, y rhawiau, y sisyrnau, y dysglau, y powlenni arogldarth, a phopeth arall o bres oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr addoliad.

19. Cymerodd capten y gwarchodlu bopeth oedd wedi ei wneud o aur neu arian – y powlenni bach, y padellau, y dysglau, bwcedi lludw, y lampau ar stand, y padellau a phowlenni'r offrwm o ddiod.

20. Roedd cymaint o bres yn yr offer oedd y Brenin Solomon wedi eu gwneud ar gyfer y deml – pres y ddau biler, y ddysgl bres fawr sy'n cael ei galw “Y Môr”, y deuddeg tarw pres oedd dan y Môr, a'r trolïau pres – roedd y cwbl yn ormod i'w bwyso.

21. Roedd y pileri yn wyth metr o uchder, pum metr a hanner o gylchedd, yn wag y tu mewn, ac wedi eu gwneud o fetel oedd tua 75 milimetr o drwch.

22. Ar dop y pileri roedd capan pres oedd tua dau fetr o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi ei wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath.