beibl.net 2015

Jeremeia 51:56-63 beibl.net 2015 (BNET)

56. Ydy, mae'r gelyn sy'n dinistrio'n ymosod!Bydd milwyr Babilon yn cael eu dal,a'i bwâu yn cael eu torri.Mae'r ARGLWYDD yn Dduw sy'n cosbi.Bydd yn talu'n ôl yn llawn iddyn nhw!

57. “Bydda i'n meddwi ei swyddogion a'i gwŷr doeth,ei llywodraethwyr, ei phenaethiaid a'i milwyr.Byddan nhw'n syrthio i gysgu am byth.Fyddan nhw ddim yn deffro eto,” meddai'r Brenin—yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e.

58. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Bydd wal drwchus dinas Babilon yn cael ei bwrw i lawr.Bydd ei giatiau uchel yn cael eu llosgi.Bydd ymdrechion y bobloedd i ddim byd.Bydd holl lafur y gwledydd yn cael ei losgi!”

59. Dyna'r negeseuon oedd y proffwyd Jeremeia wedi eu rhoi i Seraia (mab Nereia ac ŵyr i Machseia). Seraia oedd swyddog llety'r brenin, ac roedd wedi mynd gyda Sedeceia, brenin Jwda, i Babilon yn y bedwaredd flwyddyn i Sedeceia fel brenin.

60. Roedd Jeremeia wedi ysgrifennu mewn sgrôl am y dinistr ofnadwy oedd yn mynd i ddod ar Babilon.

61. Yna dwedodd wrth Seraia: “Gwna'n siŵr dy fod yn darllen y cwbl yn uchel i'r bobl ar ôl cyrraedd Babilon.

62. Wedyn gweddïa, ‘O ARGLWYDD, rwyt ti wedi dweud yn glir dy fod ti'n mynd i ddinistrio'r lle yma. Fydd dim pobl nac anifeiliaid yn gallu byw yma. Bydd yn lle anial am byth.’

63. Ar ôl darllen y sgrôl, rhwyma hi wrth garreg a'i thaflu i ganol yr Afon Ewffrates.