beibl.net 2015

Jeremeia 51:19-26 beibl.net 2015 (BNET)

19. Dydy Duw Jacob ddim byd tebyg iddyn nhw.Fe ydy'r un wnaeth greu pob peth,ac mae pobl Israel yn bobl sbesial iddo.Yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw!

20. “Ti ydy fy mhastwn rhyfel i;yr arf dw i'n ei ddefnyddio yn y frwydr.Dw i wedi dryllio gwledydd gyda ti,a dinistrio teyrnasoedd gyda ti.

21. Dw i wedi taro ceffylau a'u marchogion gyda ti;cerbydau rhyfel a'r milwyr sy'n eu gyrru.

22. Dw i wedi taro dynion a merched;dynion hŷn, bechgyn a merched ifanc.

23. Dw i wedi taro bugeiliaid a'u preiddiau;ffermwyr a'r ychen maen nhw'n aredig gyda nhw.Dw i wedi taro llywodraethwyr a swyddogion gyda ti.

24. “Dw i'n mynd i dalu'n ôl i Babilon a phawb sy'n byw yn Babilonia am yr holl bethau drwg wnaethon nhw yn Seion o flaen eich llygaid chi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

25. “Dw i yn dy erbyn di, Babilon!” meddai'r ARGLWYDD.“Ti ydy'r llosgfynydd sy'n dinistrio'r byd i gyd.Dw i'n mynd i dy daro di,a dy rolio di i lawr oddi ar y clogwyni.Byddi fel llosgfynydd mud.

26. Fydd neb yn defnyddio carreg ohonot tifel maen congl na charreg sylfaen.Byddi'n adfeilion am byth.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.