beibl.net 2015

Jeremeia 5:7-15 beibl.net 2015 (BNET)

7. “Jerwsalem – sut alla i faddau i ti am hyn?Mae dy bobl wedi troi cefn arna i.Maen nhw wedi cymryd llw i ‛dduwiau‛sydd ddim yn bod!Er fy mod i wedi rhoi popeth oedd ei angen iddyn nhwdyma nhw'n ymddwyn fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr.Maen nhw'n heidio i dai puteiniaid,

8. fel meirch cryfion yn awchu am gaseg;pob un yn gweryru am wraig ei gymydog.

9. Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?” meddai'r ARGLWYDD.“Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?”

10. “Ewch i lawr y rhesi o goed gwinwydd, a difetha,ond peidiwch â'i dinistrio nhw'n llwyr.Torrwch y canghennau sy'n blaguro i ffwrdd,achos dŷn nhw ddim yn perthyn i'r ARGLWYDD.

11. Mae pobl Israel a Jwda wedi bod yn anffyddlon i mi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

12. “Ydyn, maen nhw wedi gwrthod credu'r ARGLWYDDa dweud pethau fel, ‘Dydy e'n neb!Does dim dinistr i ddod go iawn.Welwn ni ddim rhyfel na newyn.

13. Mae'r proffwydi'n malu awyr!Dydy Duw ddim wedi rhoi neges iddyn nhw!Gadewch i'r hyn maen nhw'n ddweudddigwydd iddyn nhw eu hunain!’”

14. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, yn ei ddweud:“Am eu bod nhw'n dweud hyn,dw i'n mynd i roi neges i ti fydd fel fflam dânyn eu llosgi nhw fel petaen nhw'n goed tân.”

15. “Gwranda Israel,” meddai'r ARGLWYDD“Dw i'n mynd i ddod â gwlad o bell i ymosod arnat ti –gwlad sydd wedi bod o gwmpas ers talwm.Dwyt ti ddim yn siarad ei hiaith hi,nac yn deall beth mae'r bobl yn ei ddweud.