beibl.net 2015

Jeremeia 49:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am bobl Ammon:“Oes gan Israel ddim disgynyddion?Oes neb ohonyn nhw ar ôl i etifeddu'r tir?Ai dyna pam dych chi sy'n addoli Milcomwedi dwyn tir Gad a setlo yn ei drefi?

2. Felly mae'r amser yn dod”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn—“pan fydd sŵn rhyfel i'w glywed yn Rabba.Bydd prifddinas Ammon yn domen o adfeilion,a bydd ei phentrefi yn cael eu llosgi'n ulw.Wedyn bydd Israel yn cymryd ei thir yn ôlgan y rhai gymrodd ei thir oddi arni,”—meddai'r ARGLWYDD.

3. “Udwch, bobl Cheshbon, am fod Ai wedi ei bwrw i lawr!Gwaeddwch, chi sy'n y pentrefi o gwmpas Rabba!Gwisgwch sachliain a galarwch!Rhedwch o gwmpas yn anafu eich hunain!Bydd eich duw Milcom yn cael ei gymryd i ffwrdd,a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e!

4. Pam dych chi'n brolio eich bod mor gryf?Mae eich cryfder yn diflannu, bobl anffyddlon!Roeddech yn trystio eich cyfoeth, ac yn meddwl,‘Pwy fyddai'n meiddio ymosod arnon ni?’

5. Wel, dw i'n mynd i dy ddychryn di o bob cyfeiriad,”meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.“Byddi'n cael dy yrru ar chwâl,a fydd neb yna i helpu'r ffoaduriaid.

6. “Ond wedyn bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Ammon yn ôl iddi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

7. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud am Edom:“Oes rhywun doeth ar ôl yn Teman?Oes neb call ar ôl i roi cyngor?Ydy eu doethineb nhw wedi diflannu?